(John Liu, Kurtis Spieler, UDA 1984/2021, 93 munud + 47 munud)
Ffilmwyd New York Ninja, ffilm grefftau ymladd wyllt a gyfarwyddwyd yn wreiddiol gan John Liu, gydag yntau yn serennu ynddi, ym 1984, y cwbl mewn 35mm. Rhoddwyd gorau i’r prosiect yn fuan wedi ei ffilmio ac mi ddiflannodd, gyda’r holl ddeunyddiau sain, sgriptiau a thriniaethau gwreiddiol yn mynd ar goll.
40 mlynedd yn ddiweddarach, darganfyddwyd y negatifau gwreiddiol anolygedig gan Vinegar Syndrome, a benderfynodd ailadeiladu’r ffilm yn fanwl a’i chwblhau eu hunain gyda dim ffordd o wybod beth oedd yr actorion yn dweud yn wreiddiol, neu beth oedd trefn y ffilm i fod. Er mwyn ail-leisio dialog newydd, defnyddiwyd talentau archsêr y ffilmiau genre Don “The Dragon” Wilson, Michael Berryman a Cynthia Rothrock i leisio’r prif rannau.
Deuir â Ninja’r 1980au yn ôl i fywyd syfrdanol mewn ffilm oedd â statws cwlt pendant cyn iddi daro’r sgrîn o gwbl! Yn wirion, yn ddryslyd, yn nonsens llwyr gydag actio gwarthus - rhaid i chi weld New York Ninja!
Yn dilyn y sgriniad, byddwn yn cyflwyno’r dangosiad cyntaf yn y DU o ‘Re-Enter the New York Ninja’, sy’n cymryd golwg ar darddiad y ffilm, ei disgyniad i ebargofiant a’i thaith anhygoel yn ôl i’r sgrîn fawr.