Register now!
Archebwch ar-lein
SWYDDFA DOCYNNAU: 01970 62 32 32
Iau 4 Tachwedd 2021
Gallwch fwynhau darllen y wybodaeth am y gweithgaredd hwn ond ni fedrwch archebu ar-lein ar ei gyfer.
(Roy Ward Baker, y DU 1971, 97munud)
Sgriniad arbennig i ddathlu hannercanmlwyddiant fersiwn llawn dychymyg Hammer o’r stori glasurol. Mae’r Proffesor Jekyll, gwyddonydd diwyd, yn gweithio dydd a nos ar serwm, yn poeni na fydd un einioes yn ddigon i gwblhau ei ymchwil.
Mewn tro unigryw ar y stori boblogaidd, mae’n ffeindio nad yw’r serwm cweit yn gweithio yn unol â’i gynllun, gan greu fersiwn amgen fenywaidd ddrwg ohono’i hun. Yn daer i guddio ei hunaniaeth newydd, mae’n cyfeirio ati fel ei chwaer, ond mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth pan mae’n sylweddoli bod angen hormonau benywaidd arno …
Yn ecsbloetiol ac yn dramgwyddus, mae Dr Jekyll and Sister Hyde yn glasur hwyr yn repertoire Hammer ac ‘rydym wrth ein bodd yn dod â hi yn ôl i’r sgrîn fawr i ddathlu ei hannercanmlwyddiant.
‘Rydym yn defnyddio cwcis i wella eich profiad. Trwy wylio cynnwys ein gwefan ‘rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis.