(Jess Franco, Sbaen/Ffrainc 1973, 75 munud, wedi’i throsleisio mewn Saesneg)
Yn dilyn marwolaeth Victor Frankenstein, mae dau ffigwr yn cystadlu am reolaeth ei anghenfil croen-metelaidd: merch y gwyddonydd, Vera, a’r dewin anfarwol Cagliostro, sy’n cael ei gynorthwyo gan aderyn-fenyw gyda syched anniwall am waed.
Mae selogion Abertoir yn gwybod ein bod yn hoff iawn o Jess Franco, y cyfarwydddwr Sbaenaidd sy’n feistr ar ffilmiau Ewro slebogaidd a gwaith camera mympwyol. Dylai rhywun sy’n disgwyl celf o safon a soffistigedigrwydd droi i ffwrdd ‘nawr, gan fod Erotic Rites yn cynrychioli Franco ar ei orau. Mae’r actor Prydeinig Dennis Price (a ymddangosodd yn y gomedi Ealing hyfryd Kind Hearts and Coronets) yn ffeindio ei hun ar ddiwedd ei yrfa yn chwarae’r Doctor Frankenstein, ac mae ‘na chwipio, crash zooms, rhagor o chwipio, ‘sgerbydau, a dynes sgrechlyd gyda phlu gwyrdd ar ei dwylo …
Ac i wneud pethau’n fwy cymhleth byth, gwnaethpwyd dwy fersiwn o’r ffilm hon - un ar gyfer y farchnad Sbaenaidd lem lle ‘roedd noethni yn cael ei wahardd, ac un ar gyfer y farchnad Ffrengig lle ‘roedd unrhyw beth yn dderbyniol. ‘Wnawn ni ddim dweud pa fersiwn ‘dan ni’n dangos …