Caffis
Rydyn ni'n falch i gynnig Coffi Coaltown, yn cefnogi busnes Cymreig. Mae gan Coaltown dystysgrif B-Corp, gan gyfarfod â safonau uchaf perfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol ardystiedig.
Mae ein hegwyddorion arweiniol yn siapio ac yn arwain ein caffi arloesol a blaengar, sy’n cynnig darpariaeth eang o fwyd poeth, salad, diodydd, byrbrydau a chacennau.
Mae ein bwyd poeth a saladau’n cael eu creu gan ein cogyddion a thîm cegin ymroddedig, gan gyrraedd safonau uchaf o goginio blasus a chynaliadwy. Mae ein bwydlen yn darparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion dietyddol, gydag opsiynau llysieuol, feganaidd a di-glwten ar gael yn safonol.
Mae’n rhestr cyflenwyr hir yn adlewyrchu’n ymrwymiad at gynnig bwyd sydd wedi’i gyflenwi mor lleol ac mor foesegol â phosib.
Amseroedd Agor y Prif Gaffi
Llun - Sadwrn: 9.00 - 20.00
Dydd Sul: 12:00-17:00
Amseroedd Agor Caffi’r Piazza
Mesurau Diogelwch
‘Rydym wedi gosod nifer o fesurau diogelwch ychwanegol yn eu lle i wneud yn siwr eich bod yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus yn y Ganolfan. Noder yr isod os gweler yn dda fel eich bod yn teimlo’n gyfforddus wrth ddychwelyd.
- Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn falch i gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain a Gwarchod GIG Cymru wrth reoli lledaeniad COVID-19. Pan ‘rydych yn ymweld â’r Caffi neu’r Bar, bydd angen i chi gwblhau ffurflen dracio ac olrhain. Unai drwy sganio’r côd QR neu lenwi’r ffurflen bapur.
- Darperir gwasanaeth bwrdd i gwsmeriaid sy’n bwyta i mewn
- Neu, efallai bydd cwsmeriaid yn dymuno prynu diodydd trwy ddefnyddio ein platfform archebu ar-lein newydd ‘the Vine’. Deuir ag unrhyw ddiodydd a brynir ar y Vine at fwrdd y cwsmer.
- Nid ydym yn derbyn arian parod ar hyn o bryd; gofynnir i gwsmeriaid dalu gyda cherdyn.
Darllenwch ein Cwestiynau Ailagor am ragor o wybodaeth ynglyn â’r mesurau diogelwch yn y Ganolfan.
Rydyn yn awyddus i glywed unrhyw adborth am ein caffis a bar gan ddefnyddwyr rheolaidd a rhai newydd. Os gwelwch yn dda dilynwch y ddolen hon i gynnig adborth ar-lein.