Artists Application
Mae croeso i artistiaid anfon manylion am eu gwaith at Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, i gadw ni'n hysbys o'u prosiectau cyfredol neu i wneud cais bod eu gwaith yn cael ei ystyried ar gyfer arddangosfa.
Mae gan Ganolfan y Celfyddydau ddwy brif Oriel: Mae Oriel 1 yn cynnwys gofod o dua 250 medr sgwâr gydag aelod o staff ar ddyletswydd bob amser.
Nid oes aelod o staff yn Oriel 2 bob amser ond cedwir llygad ar yr oriel gydol y dydd. Mae'n cynnwys gofod o dua 125 medr sgwâr. Fel arfer mae'r oriel hon yn arddangos ffotograffiaeth a phrintiau.
Mae Llygad yn fan arddangos newydd yn dechrau ym mis Gorffennaf 2010 yn dangos gwaith fideo. Mae sgrîn y Llygad ydy 52”; lleolir y Blwch ym mhrif gyntedd y Ganolfan.
Rhoddir manylion am raglen arddangosfeydd y Ganolfan, yn y gorffennol a'r presennol, ar ein gwefan: :
www.aberstwythartscentre.co.uk
Pe hoffech i'ch gaith gael ei ystyried ar gyfer ei arddangos, gofynnir i chwi anfon y canlynol:
- Deunydd gweledol (CDs, DVDs, ffotograffau etc.) o'ch gwaith , gyda manylion yn rhoi dyddiadau, deunyddiau, maint etc fel bo'n addas
- CV cyfredol
- Ynglyn â datganiad ac unrhyw wybodaeth atodol arall yn amlinellu'r prosiect/gwaith
- Dynodwch hefyd ym mha oriel yr hoffech arddangos eich gwaith
Artistiaid Preswyl
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar hyn o bryd yn cynnig cyfnodau preswyl i artistiaid o'r DU a thramor, i'w lleoli yn yr Unedau Creadigol newydd. Ceir manylion cyffredinol ar wefan y Ganolfan.
Curadur Arddangosfeydd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth SY23 3DE neu jip15@aber.ac.uk