Theatre - Theatr
Tue 21 September Maw 21 Medi
7:30pm
Alternative Dates
Dyddiadau Amgen
Gwlad yr Addewid
Theatr Genedlaethol Cymru
A Welsh translation of the explosive play House of America, a story of a family’s battle against their own circumstances and the end of an American dream in a bypassed industrial town in south Wales in the 1980s.
Cyfieithiad i’r Gymraeg gan Sharon Morgan o stori ffrwydrol ac angerddol Ed Thomas, ‘House of America’, am frwydr anobeithiol dyn yn erbyn amgylchiadau a diwedd y freuddwyd Americanaidd mewn tref ddiwydiannol yn ne Cymru yn yr 1980au. Adrodda Gwlad yr Addewid stori teulu’r Lewisiaid – Sid, Boyo a Gwenny, sydd yn edrych ar ôl eu mam ecsentrig wedi i’w tad eu gadael gyda’r honiad o geisio canfod bywyd gwell yn yr Amerig. Mae’r plant yn ysu am gael dianc yn yr un modd a’u tad ond mae’r sefyllfa yn un anobeithiol gan fod prinder swyddi yn y dref fach, a Mam ddim yn fodlon i’w meibion hi weithio yn y gwaith glo brig, sydd yn taflu ei gysgod llwyd dros y ty. Rebelio yn erbyn eu hamgylchiadau y gwna Sid a Gwenny gyda chanlyniadau hunan ddinistriol. Mae eu ffantasiau yn dechrau gafael ynddynt ………. gan adael Boyo a Mam ar ôl gyda’r gwirionedd creulon. Dyma’r tro cyntaf i’r ddrama hon gael ei llwyfannu yn broffesiynol yn y Gymraeg.
£11 (£10) CC £10.50 (£9.50)
ORDER ONLINE ARCHEBWCH AR-LEIN