Skip Navigation

Arts Centre logo
 
July Gorffenaf
LluMawMerIauGweSadSul
MonTueWedThuFriSatSun
  01 02 03 04 05 06
07 08 09 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31

View What's On in:

Theatre - Theatr

Wed 09 April Mer 09 Ebrill 7:30pm
Y Gobaith a'r Angor

Alternative Dates
Dyddiadau Amgen

Y Gobaith a'r Angor

Theatr Bara Caws

‘Da ni gyd yn chwilio am angor mewn byd anwadal, am gysur a sicrwydd rhag ein stormydd.  Mae rhai'n rhaffu eu hunain i gariad, eraill i arian, ond i rai mae'r tonnau'n drech.  Profiad dwys doniol fydd ‘Y Gobaith a'r Angor'.

Yn nrama broffesiynol gyntaf Dylan Wyn Rees profwn dafell o dorth bywyd sy'n ddigri a thrist, undonog a bywiog, ac yn cynnig gobaith o fath o ganol ei thywyllwch.

Drwy gyfres o olygfeydd wedi'i gosod yn y dafarn o'r un enw, cyfarfwn a selogion y bar cefn wrth iddyn nhw gyfri eu dyddiau mewn peintiau a phaentio eu breuddwydion drwy waelod potel.  ‘Rydym yn eu hadnabod i gyd, a mwy na thebyg yn llawer agosach i ambell un nag y mynnem gyfaddef.  Mae'r cwmni yn falch o fod wedi cael cynnig cefnogaeth i'r awdur Dylan Wyn Rees ac yn hollol hyderus ei fod yn mynd i fod yn ddramodydd o bwys, mae'n sicr hefyd nad dyma'r ddrama olaf y bydd Dylan yn sgwennu i'r cwmni.

Er nad yw efallai yn addas i blant o dan 12

Gyda Dyfrig Wyn Evans,  Gwenno Elis Hodgkins,  Huw Llyr, John Glyn Owen, Gwyn Vaughan

Intriguing and provocative Welsh language drama from new author Dylan Wyn Rees.

£8.00 (£7.00)
CC £7.50 (£6.50)

ORDER ONLINE ARCHEBWCH AR-LEIN