Exhibitions - Arddangosfeydd
Hanne Rysgaard
My personal approach to life is “you have to smile” and my work focuses on fun and function – it is both useful and pleasurable in equal measures. I evolve new designs by an ongoing process of play; I like to juxtapose different patterns using open stock transfers, patterns and colours found in bric-a-brac, vintage fabrics, souvenirs, whatever grabs my attention to decorate the simple ceramic shapes which I have developed from past and present functional wares. My slip-cast & thrown ranges are very much their own entities and have evolved within their own disciplines over several years. They complement each other; the wheel-thrown pieces make generous and informal traditional tableware with a twist and the slip-cast designs are more contemporary and quirky home accessories.
F’agwedd tuag at fywyd yw bod “rhaid i chi wenu” ac mae fy ngwaith yn ffocysu ar hwyl a bod yn ymarferol - mae’r darnau’n ddefnyddiol ac yn rhoi pleser ar yr un pryd. ‘Rwy’n creu dyluniau newydd trwy broses o chwarae; ‘rwy’n mwynhau cyfosod gwahanol batrymau gan ddefnyddio’r trosluniau, patrymau a lliwiau sydd i’w ffeindio mewn bric-a-brac, hen ffabrigau, swfenirau, beth bynnag sy’n denu fy sylw, i addurno’r siapiau serameg syml yr wyf wedi eu datblygu’n seiliedig ar ddarnau ymarferol o’r gorffennol a’r presennol. Mae fy ngwaith, trwy ddefnyddio’r prosesau castio a thaflu, wedi datblygu o fewn y disgyblaethau hyn dros nifer o flynyddoedd. Maent yn cydfynd â’i gilydd; mae’r darnau a deflir ar y droell yn gwneud llestri traddodiadol anffurfiol tra bod y dyluniau slip sydd wedi eu castio yn gwneud darnau mwy cyfoes, ychydig yn wahanol, i’r cartref.
ORDER ONLINE ARCHEBWCH AR-LEIN