Exhibitions - Arddangosfeydd
Bitten & Pressed
Contemporary Artists' Prints
An exhibition exploring the diversity of contemporary printmaking, including works from printmakers who maintain traditional techniques which have been used for hundreds of years as well as those who have adopted the latest technological advances. This wide ranging selection has examples from across UK, France and Germany, highlighting the extensive opportunities of technique and means of expression open to the modern printmaker.
Among the artists included: Jake Blanchard, John Breakey, Sally Elford, Edwina Ellis, Cedric Green, Al Heighton, Anita Klein, Roman Klonek, Ann Lewis, Dianne Murphy, Louise Nowell, Mark Perronet, Patrick Savile.
Dyma arddangosfa sy'n archwilio‘r amrywiaeth ym maes gwneuthur printiau cyfoes, gan gynnwys gwaith gan artistiaid sy'n ffafrio technegau traddodiadol a ddefnyddiwyd dros gannoedd o flynyddoedd yn ogystal â'r rhai sydd wedi mabwysiadu'r dulliau technolegol diweddaraf. Mae'r detholiad eang hwn yn cynnwys enghreifftiau o'r DU, Ffrainc a'r Almaen, gan dynnu sylw at y cyfleoedd gwych o safbwynt techneg a mynegiant sydd ar gael i'r gwneuthurwr print modern. Ceir hysbysfyrddau yn egluro dulliau sylfaenol yr artistiaid a bydd llawer o'r darnau ar werth.
