Level 3
Theatre Theatr
The Arts Centre's theatre was built in 1972. It seats audiences of 312 in its normal setting, but can be slightly reduced or extended depending on events. It has the full lighting and sound facilities of a busy theatre.
The theatre is the Arts Centre's main venue for touring companies of national and international reputation, which in recent years have included Theatr Clwyd, Theatre Genedlaethol Cymru, National Theatre, Hull Truck Theatre Company, and Northern Stage Theatre Company. It is also a major centre for Welsh language drama, including productions from Theatr Genedlaethol Cymru, Llwyfan Gogledd Cymru, Sgript Cymru, Theatr Bara Caws and Aberystwyth based Arad Goch.
Other events in the theatre include dance from companies including Diversions Dance Company; opera from companies including Mid Wales Opera; comedy from artists such as Rob Brydon and Jeremy Hardy, and many more. The theatre is also used by student and local amateur companies and groups.
The Arts Centre produces its own professional summer season show each year, and past productions have included ‘The King and I’, ‘The Sound of Music’, and ‘Annie’. The 2004 production is ‘Singin' in the Rain’.
Adeiladwyd theatr Canolfan y Celfyddydau ym 1972. Mae lle ar gyfer 312 yn y gynulleidfa ar ei ffurf arferol ond gellir lleihau neu ymestyn nifer y seddi yn dibynnu ar y gweithgaredd. Mae gan y theatr gyfleusterau goleuo a sain ymysg y gorau.
Mae theatr y Ganolfan yn croesawu cwmniau teithio sydd ag enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan gynnwys, dros y blynyddoedd diweddar, Theatr Clwyd, Theatr Genedlaethol Cymru, y Theatr Genedlaethol, Cwmni Theatr ‘Hull Truck’ a Chwmni Theatr ‘Northern Stage’. Mae hefyd yn brif ganolfan ar gyfer drama yn yr iaith Gymraeg gan gynnwys cynyrchiadau gan Theatr Genedlaethol Cymru, Llwyfan Gogledd Cymru, Sgript Cymru, Theatr Bara Caws a chwmni Arad Goch a leolir yn Aberystwyth.
Mae gweithgareddau eraill yn y theatr yn cynnwys dawns gan gwmniau megis Cwmni Dawns Diversions; opera gan gwmniau megis Opera Canolbarth Cymru; comedi gan artistiaid megis Rob Brydon a Jeremy Hardy a llu o rai eraill. Defnyddir y theatr hefyd gan fyfyrwyr a grwpiau a chwmniau amatur lleol.
Mae Canolfan y Celfyddydau yn cynhyrchu ei sioe haf broffesiynol ei hun bob blwyddyn ac yn y gorffennol cafwyd sioeau megis ‘The King and I’, ‘The Sound of Music’ ac ‘Annie’. Cynhyrchiad 2004 yw ‘Singin' in the Rain’.
