Skip Navigation

Arts Centre logo

Exhibitions - Arddangosfeydd

                                                                       Time

 

Section 1 : Exhibitions requiring c. 240 square metres

Adran 1: Arddangosfa sydd angen oddeutu 240 metr sgwâr

We Are Family:

One hundred years of images of the family

Curated by Emmanuel Cooper, this exhibition focuses on the image of the ‘family’ as expressed by artists from the early 20th century to the present day. 

The 20th century brought fundamental changes – increased urbanisation and industrialisation contributed to the break up of large family units, while the wane of religious and moral codes and the spread of secularism further affected family structure. Two world wars, liberal divorce laws, greater mobility, recognition of same sex partnerships – new ways of making a ‘family’ have now become part of 21st century life.

Far from disappearing, the family - as the exhibition emphasises - survives and thrives, taking on new forms and adapting to change. All is reflected in the art of the time.

The exhibition will cover a wide spectrum of media – painting, drawing, sculpture, photography, ceramics and video.

The exhibition is available to tour from April 2010 – July 2011 (approx)

Hire fee:  £5000 plus one-way transport.

Gydag Emmanuel Cooper yn curadu, mae’r arddangosfa hon yn ffocysu ar y syniad o ‘deulu’ fel y’i mynegir gan artistiaid o’r 20fed ganrif gynnar hyd at y presennol.

Cafwyd newidiadau sylfaenol yn yr 20fed ganrif - bu trefolaeth a diwydiannu cynyddol yn cyfrannu at dorri i fyny unedau teuluol mawr, tra bu’r newid mewn safonau crefyddol a moesol a’r tyfiant mewn seciwlariaeth hefyd yn effeithio ar strwythur y teulu.  Dau ryfel byd, cyfreithiau ysgariad hael, mwy o symud o gwmpas, cydnabod partneriaethau sifil - mae ffyrdd newydd o greu ‘teulu’ yn rhan o fywyd yn yr 21ain ganrif bellach.  

Er gwaethaf hyn i gyd mae’r teulu - fel y pwysleisir yn yr arddangosfa - yn goroesi ac yn ffynnu, yn cymryd ymlaen ffurfiau newydd ac yn addasu i newid.  Adlewyrchir y cyfan yng ngwaith celf y cyfnod.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys sbectrwm eang o gyfryngau - paentio, arlunio, cerflunwaith, ffotograffiaeth, serameg a fideo.

Mae’r arddangosfa ar gael i fynd ar daith rhwng Ebrill 2010 a Gorffennaf 2011

Ffi hurio:  £5000 ynghyd â chostau cludiant un-ffordd.

 

The Dartboard for Witches:

Contemporary work in textiles

            This exhibition brings together works by artists who use textile methods and materials in their fine art practice, often in unexpected ways. All the selected pieces focus on the human figure and its intimate objects, in works addressing both personal and global concerns.

Textile is a material with strong associations. It is our second skin for most of the day, so consciously or not we all have an intimate knowledge of it as a material - how it folds, how it feels to touch.  This knowledge gives the works in this exhibition an added dimension for the viewer. For the very same reasons – familiarity, association with the everyday domestic -  it has in the past been a struggle to see textiles as a serious material for artworks; and traditional textile methods – those which  best use the material’s innate qualities – were relegated to decorative items, made following traditional pathways.  In recent years, artists have cut textiles loose from the limitations of domestic and decorative use – wonderful as these are – to explore the material’s wider possibilities in carrying meaning.  This exhibition includes works by some fifteen artists, including:

Natasha Kerr, Lynn Setterington Tabitha Kyoko, Caren Garfen’s, Rosalind Wyatt, Clyde Olliver, Silja Puranen, Rosie James, Jane Mc Keating, Shiziko Kimura, Naori Priestley, Silja Puranen and Sue Stone, among others. 

The exhibition is available to tour from Autumn 2010

Hire Fee:  £2000 including equipment and one-way transport.

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys darnau o waith gan artistiaid sy’n defnyddio dulliau a deunyddiau tecstil yn eu hymarfer celf cain, yn aml mewn ffyrdd annisgwyl.  Mae’r holl ddarnau a ddetholwyd yn ffocysu ar y ffurf ddynol a’i gwrthrychau agos, mewn gwaith sy’n edrych ar faterion personol yn ogystal â byd-eang.

Mae tecstil yn ddeunydd sydd â chysylltiadau personol cryf. Mae’n ail groen i ni am y rhan fwyaf o’r dydd, felly os ‘rydym yn ymwybodol o hynny neu beidio, ‘rydym i gyd yn gyfarwydd ag ef fel deunydd - sut mae’n plygu, sut mae’n teimlo i gyffwrdd ynddo. Mae’r wybodaeth hon yn rhoi i’r darnau yn yr arddangosfa ryw ddimensiwn ychwanegol i’r gwyliwr.  Am yr union un resymau - am fod tecstiliau yn gyfarwydd ac yn rhan o fywyd bob dydd - bu’n anodd yn y gorffennol i’w hystyried fel deunyddiau addas ar gyfer gwaith celf ac fe ystyriwyd dulliau tecstil traddodiadol, sy’n defnyddio nodweddion y deunydd i’r eithaf, fel modd i greu eitemau addurniadol yn unig.

Natasha Kerr Dros y blynyddoedd diwethaf mae artistiaid wedi rhyddhau tecstiliau rhag y cyfyngiadau o’u defnyddio mewn modd domestig ac addurniadol - er y gall y defnydd hwn fod yn hyfryd - er mwyn archwilio posibiliadau ehangach y deunydd i gyfleu ystyr a syniadau’r artist.

Mae’r arddangosfa hon yn dangos gwaith gan ryw bymtheg o artistiaid gan gynnwys:

Natasha Kerr, Lynn Setterington Tabitha Kyoko, Caren Garfen, Rosalind Wyatt, Clyde Olliver, Silja Puranen, Rosie James, Jane Mc Keating, Shiziko Kimura, Naori Priestley, Silja Puranen a Sue Stone, ymysg eraill. 

Mae’r arddangosfa hon ar gael o’r Hydref 2010

Ffi Hurio:  £2000 gan gynnwys offer a chludiant un-ffordd.

 

A landscape of Wales – a book and touring exhibition of photographs by James Morris:

     

James Morris is a renowned photographer of landscapes, architecture and the built environment.  In his current work he explores landscapes, looking for the stories that they tell.  His interest is primarily in man’s intervention in the land, the ‘man altered’ places.  He is fascinated by how we occupy and construct space, by the way places change, and the layers of history evident there.

The images explore the contrasting realities of the landscape as seen by tourists (mainly English) and that witnessed in daily life by most inhabitants, as the images move between tourist hot spots and the terraces and back streets where the majority of people live.

The writer Jim Perrin has said of the work,  ‘James Morris in Gramsci’s phrase, “turns violently to face things exactly as they are”. He turns an honest eye on what we do to our landscapes and how lost we become in registering that effect… His vision of ugliness and abuse is a way through. It is grim old Hardy’s precept that “If way to the better there be, it exacts a full look at the worst”.

The publication will include 74 photographs, accompanied by a 3500-word essay from Jim Perrin. “Britain’s finest outdoor essayist” (Guardian). The exhibition will consist of approximately 35 large, framed, C-type prints; which will be shown together with a programme of projected images showing the complete series of 74 images. 

The exhibition is available to tour from Autumn 2010

Hire Fee: £1500 plus one-way transport

Mae James Morris yn ffotograffydd adnabyddus o dirweddau, pensaerniaeth ac adeiladau o fewn yr amgylchedd. Yn ei waith cyfredol, mae’n archwilio tirweddau, yn edrych am y straeon a adroddir ganddynt. Ei brif ddiddordeb yw ymyrraeth dyn yn y tir - y llefydd sydd wedi cael eu newid gan ddyn.  Mae’n ymddiddori yn y ffordd yr ydym yn creu ac yn llenwi gofod, yn y ffordd y mae llefydd yn newid, a’r haenau o hanes a amlygir yno.

Mae’r delweddau yn archwilio realiti cyferbyniol y dirwedd o safbwynt twristiaid (yn Saeson rhan fwyaf) a’r dirwedd a welir o ddydd i ddydd gan y sawl sy’n byw yno, wrth i’r delweddau symud rhwng hoff lefydd y twrist a’r terasau a’r strydoedd cefn lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn byw.

Dywed yr ysgrifennwr Jim Perrin am y gwaith, ‘Yng ngeiriau Gramsci, mae James  Morris yn wynebu pethau yn union fel y maent.  Mae’n edrych yn gwbl onest ar beth yr ydym yn gwneud i’n tirweddau a sut yr ydym yn ymateb i’r effaith a geir yn sgil hynny … mae ei weledigaeth o hylltra a chamdrin yn ffordd o ymdopi. I ddyfynnu Hardy, “If way to the better there be, it exacts a full look at the worst”’.

Bydd y cyhoeddiaqd yn cynnwys 74 o ffotograffau, ynghyd â thraethawd o 3500 o eiriau oddi wrth Jim Perrin sef traethodwr awyr-agored gorau Prydain yn ôl y Guardian. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys 35 o brintiau mawr, wedi eu fframio.

Mae’r arddangosfa hon ar gael i’w hurio o’r Hydref 2010.

Ffi hurio: £1500 gan gynnwys cludiant un-ffordd.