Porc Pei
Helen Jones
Wi’n dwlu ar borc peis.
Wi’n trio ‘ngore glas i beidio a’u prynu nhw’n rhy amal… yr holl saturated fat...
dy’w e ddim yn beth allech chi alw’n fwyd iach yw e.
Ond withe’, pan i fi mas yn siopa, a wi’n gweld nhw ar y shilff.. wi’n methu peidio ond prynu un.
Ma’n ffrindie i gyd yn gwbod am y peth da’r porc peis.
Ma’ nhw’n eu prynu nhw os i ni’n mynd ar drip neu ar bicnic.
Ma’ nhw’n dweud pan ma’ nhw’n siopa, a ma’ nhw’n gweld porc pei, ma nhw’n meddwl amdana i.
Ac yn prynu un yn anrheg i fi.
Ma’r plant yn ‘y nosbarth i yn ysgol yn gwbod am y peth porc peis hefyd.
Pan y’ ni’n mynd ar dripie, ma nhw’n dod a’u cinio ‘da nhw.
Ma rhai’n dod a porc pei.
Ma rhai’n dod a dwy.
Ma nhw’n gwbod fod miss yn hoffi porc peis.
Pan i fi mas yn siopa , a wi’n gweld porc pei ar y shilff, ‘wi’n cael fy hun yn sefyll ‘na….yn gwenu fel gât.
Wi’n cofio’r plant, a’r holl dripie da ni ‘di gal ‘da’n gilydd.
Wi’n cofio’n ffrindie a gymaint o sbort y’n ni’n gal.
‘Na pŵer y porc pei i chi.
A falle, ‘na pham wi’n ei hoffi nhw gymaint wedi’r cyfan.
Rhowch i ni dipyn o'ch hanes.
Menyw, 43 oed, athrawes, mam i dri o blant, gwraig
Beth yw pwnc eich stori?
Grym y porc pei
Paham y buoch yn dewis y stori arbennig hon?
Nid oeddwn eisiau dewis rhywbeth rhy drwm
Beth oedd y peth gorau am y gweithdy?
Y cwmni

