About us - Amdanom ni
For Visual Artists' Residencies Applications Click Here >>
For Ceramics Residencies Applications Click Here >>
For International Residency Information Click Here >>
Ar gyfer Ceisiadau gan Artistiaid Gweledol am Gyfnodau Preswyl cliciwch yma >>
Ar gyfer Ceisiadau am Gyfnodau Preswyl Serameg cliciwch yma >>
Ar gyfer Ceisiadau gan Artistiaid Rhyngwladol am Gyfnodau Preswyl cliciwch yma >>
Performing Artists in Residencies
Aberystwyth Arts Centre’s recent award as a’ Beacon’ venue for its role as a centre of excellence for arts development, enables us to launch a new Performing Arts Company in Residence programme.
These residencies, supported by the Arts Council of Wales and the Arts Centre, provide UK companies with an opportunity to spend a period time in a rehearsal studio with some support in Aberystwyth concentrating on their work.
For an informal chat if you wish you may call Gill Ogden 01970 621 512 / ggo@aber.ac.uk
The deadline for the next selection meeting is March 1st 2010
Cyfnodau Preswyl ym maes y Celfyddydau Perfformio
Yn sgil y wobr a dderbyniwyd gan y Ganolfan yn ddiweddar am ei rôl fel canolfan ragoriaeth ar gyfer datblygu’r celfyddydau, ‘rydym yn medru lansio rhaglen newydd ar gyfer Cyfnod Preswyl i Gwmniau ym maes y Celfyddydau Perfformio.
Mae’r cyfnodau hyn, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan y Celfyddydau, yn rhoi cyfle i gwmniau yn y DU i dreulio amser mewn stiwdio rihyrso yn Aberystwyth, gyda pheth gefnogaeth, yn canolbwyntio ar eu gwaith. Am sgwrs anffurfiol mae croeso i chi gysylltu â Gill Ogden ar 01970 621 512 / ggo@aber.ac.uk
Y dyddiad cau ar gyfer y cyfarfod dethol nesaf yw Mawrth 1af 2010
Click here to download an Application Form (English)
Click here to download an Application Form (Cymraeg)
Aberystwyth Arts Centre
Aberystwyth Arts Centre is an award winning arts facility, the largest and busiest arts centre in Wales with a wide-ranging programme of events and activities across all art forms. Over 700,000 visitors a year are welcomed, and the Centre employs 40 full time and 119 part time staff. In 2000, the Arts Centre completed a major £4.3 million redevelopment project which was largely funded by the National Lottery, and now has facilities unrivalled throughout much of the UK; leading it to be recognised as a national centre for arts development and described as a ‘national flagship for the arts.’ It is a department of Aberystwyth University. The building houses a concert hall, theatre, two galleries, ceramics collection gallery, cinema, studio theatre, workshops (including pottery, dark room, recording studio, digital lab), café, Craft & Design shop, Bookshop, bars, and full backstage and administration facilities.
The artistic programme is a very varied one, including performing arts, literature, the visual arts and crafts, music and community arts; and the Centre is the hub for several international Festivals including the highly successful biennial International Ceramics Festival.
Aberystwyth Arts Centre has a successful track record for creating and running successful operations which contribute to the ethos of the Centre and also help the financial balancing act; the Centre’s earned income is over 70% of the total - far higher than comparable cultural facilities in the UK. The venue is an important and successful facility which is playing an increasingly vital role as income from traditional industries continues to decline.
The performing arts programme has a wide range and is of high quality; including UK & international dance and drama such as Out Of Joint theatre, Amajuba, Theatre de Complicite, Hull truck; Wales based companies such as Mappa Mundi, Diversions dance; Classical Music with Welsh National Opera, Catrin Finch; youth & community productions and a programme of world, folk, blues and popular music.
The cinema embraces a wide ranging programme including the best of UK and world cinema, and encompasses work from small independent producers to Hollywood productions.
The temporary exhibitions programme takes place within two galleries, and encompasses a wide range of contemporary practice from within the UK and worldwide. Recent exhibitions, some of which are originated here to tour to other venues in the UK and Ireland, include James Morris’ ‘Butabu’; Jeremy Deller’s Folk Archive; Janet Cardiff’s ‘Forty Part Motet’ and Cadet, new work by Tim Davies, which includes a film work made in Aberystwyth.
Aberystwyth Arts Centre also houses the University’s important collection of 20th and 21st century studio ceramics, and the exhibitions programme has a long commitment to the promotion and development of contemporary crafts, ceramics in particular.
Community arts and education programme includes an ‘Open Platform’ which helps emerging practitioners in music, dance, theatre and performance to present their work in a professional environment. Artists in Schools covers a range of creative Outreach and Arts Centre based visual arts, dance, drama, music and writing based workshops for school aged children. In addition, regular classes stimulate creativity and enhance well being.
Aberystwyth itself can offer the benefits of rural life – a small town, surrounded by an outstanding landscape and the sea – yet with the stimulating company of arts colleagues, University staff and students, and other facilities including national organisations such as the National Library, National Books Council and the Institute of Grassland & Environmental Research ( - which was the base for an exciting art-science NESTA funded collaboration with artists Heather Ackroyd & Dan Harvey.
Aberystwyth
Aberystwyth town is situated on the West Coast of Wales, in the centre of Cardigan Bay. The medieval walled town was built around a 13th-century fortress, and later became the exporter for the once-flourishing local lead mines. Aberystwyth today is a University town and an established holiday resort, on a spectacular coastline and surrounded by some of the most glorious countryside in Britain. Aberystwyth University attracts students from all over the world, which lends the town a more cosmopolitan and liberal ambience than many Welsh towns of a similar size.
The town is generally regarded as the capital of mid Wales, and several institutions have regional or national offices there – including the National Library of Wales, the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales and the Institute of Grassland and Environmenal Research.
Canolfan y Clefyddydau Aberystwyth
Adnodd arobryn i’r celfyddydau yw Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Hon yw’r ganolfan fwyaf a phrysuraf i’r celfyddydau yng Nghymru gyda rhaglen eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws yr holl gelfyddydau. Croesewir dros 700,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae’r ganolfan yn cyflogi 40 o staff amser llawn a 119 o staff rhan amser. Yn 2000, cwblhawyd prosiect ailwampio £4.3m sylweddol gan y Ganolfan a ariannwyd yn bennaf gan y Loteri Genedlaethol ac erbyn hyn mae ganddi gyfleusterau sydd heb eu hail drwy’r DU, nes ei bod bellach yn cael ei chydnabod fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu’r celfyddydau ac mae wedi’i disgrifio fel ‘banerlong genedlaethol i’r celfyddydau’. Un o adrannau Prifysgol Aberystwyth yw hi. Mae’r adeilad yn gartref i neuadd gyngerdd, theatr, dwy oriel, oriel casgliad cerameg, sinema, theatr stiwdio, gweithdai, gan gynnwys crochenwaith, ystafell dywyll, stiwdio recordio, labordy digidol, caffi, Siop Grefft a dylunio, siop lyfrau, barau a chyfleusterau gweinyddol a chefn-y-llwyfan cyflawn.
Mae’r rhaglen artistig yn amrywiol iawn, gan gynnwys, y celfyddydau perfformio, llenyddiaeth, y celfyddydau gweledol a chrefftau, cerddoriaeth a chelfyddydau cymunedol; Y Ganolfan yw’r canolbwynt ar gyfer sawl gŵyl ryngwladol gan gynnwys yr Ŵyl Gerameg Ryngwladol Eilflwydd hynod lwyddiannus.Mae enw da gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth o ran creu a threfnu gweithredoedd llwyddiannus sy’n cyfrannu at ethos y Ganolfan ac sydd hefyd yn helpu wrth gadw’r fantol ariannol yn wastad; Mae’r Ganolfan yn gyfrifol am ennill dros 70% o gyfanswm ei hincwm, yn uwch o lawer na chyfleusterau diwylliannol eraill yn y DU. Adnodd llwyddiannus a phwysig yw’r Ganolfan sy’n chwarae rôl gynyddol hanfodol wrth i incwm o ddiwydiannau traddodiadol ostwng o hyd.
Mae ystod eang i’r rhaglen i’r celfyddydau perfformio ac mae’n uchel iawn ei hansawdd, gan gynnwys dawns a drama o’r DU a thramor megis Out of Joint Theatre, Mappa Mundi, Diversion, cerddoriaeth glasurol ag Opera Cenedlaethol Cymru a Catrin Finch; cynyrchiadau ieuenctid a chymunedol a rhaglen o gerddoriaeth fyd-eang, cerddoriaeth werin, y felan a cherddoriaeth boblogaidd.
Mae’r sinema’n cynnig rhaglen eang gan gynnwys y gorau o sinema’r DU a’r byd gan gwmpasu gwaith gan fân gynhyrchwyr annibynnol a chynyrchiadau Hollywood.
Cynhelir y rhaglen arddangosfeydd dros dro mewn dwy oriel, gan gwmpasu amrywiaeth eang o ymarfer cyfoes o’r DU ac ar draws y byd. Mae arddangosfeydd diweddar, rhai ohonynt yn deillio’n wreiddiol o’r Ganolfan ei hun i deithio i ganolfannau eraill yn y DU ac Iwerddon, yn cynnwys ‘Butabe’ James Morris; Yr Archif Werin Jeremy Deller; ‘Motet mewn Deugain Darn’ gan Janet Cardiff a Cadet, gwaith newydd gan Tim Davies, sy’n cynnwys gwaith ffilm a wnaed yn Aberystwyth.Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth hefyd yn gartref i gasgliad cerameg stiwdio pwysig y Brifysgol o’r ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain ac mae’r rhaglen arddangosfeydd wedi ymrwymo’n hirdymor i hyrwyddo a datblygu crefftau cyfoes, cerameg yn arbennig.
Mae’r rhaglen celfyddydau cymunedol ac addysg yn cynnwys Llwyfan Agored sy’n helpu ymarferwyr newydd mewn cerddoriaeth, dawns, theatr a pherfformio i gyflwyno eu gwaith mewn amgylchedd proffesiynol. Mae Artistiaid mewn Ysgolion yn cynnwys amrywiaeth o weithdai creadigol allgymorth ac wedi’u seilio yn y Ganolfan i blant oed ysgol yn y celfyddydau gweledol, dawns, drama, cerddoriaeth ac ysgrifennu. Yn ychwanegol, bydd dosbarthiadau rheolaidd yn sbarduno creadigrwydd ac yn hybu lles.
Mae Aberystwyth ei hun yn gallu cynnig holl fanteision bywyd cefn gwlad – tref fach wedi’i hamgylchynu gan dirwedd diguro a’r môr – ac eto gyda chwmni ysgogol artistiaid, cydweithwyr/wragedd, staff y Brifysgol a myfyrwyr ac mae cyfleusterau eraill yn cynnwys cyrff cenedlaethol Cymreig megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas Amgylcheddol – a fu’n lleoliad ar gyfer cywaith celf-gwyddoniaeth NESTA cyffrous gyda’r artistiaid Heather Ackroyd a Dan Harvey.
Aberystwyth
Fe orwedd tref Aberystwyth ar arfordir orllewinol Cymru yng nghanol Bae Ceredigion. Adeiladwyd tref furiog y canol oesoedd o gwmpas castell o’r drydedd ganrif ar ddeg, ac yn nes ymlaen bu’n borthladd ar gyfer allforio plwm o’r gweithfeydd lleol a fu’n hynod lewyrchus ar un adeg. Tref prifysgol yw Aberystwyth erbyn heddiw ac yn gyrchfan gwyliau boblogaidd sy’n sefyll ar arfordir godidog wedi’i hamgylchynu gan beth o gefn gwlad harddaf gwledydd Prydain. Mae’r Brifysgol yn denu myfyrwyr o bedwar ban byd sy’n golygu bod y dref yn cynnig naws mwy cosmopolitan ac eangfrydig na llawer dref arall o’r un maint.
Ystyrir y dref yn gyffredinol fel prifddinas canolbarth Cymru ac mae gan sawl sefydliad swyddfa genedlaethol neu ranbarthol yno – gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Henebion Cymru a Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd.
