History - Hanes

The 900 seater concert hall (the Great Hall), was opened in 1970, with the addition of an Exhibition Gallery and theatre (Theatr y Werin, completed in November 1972 and seating just over 300), marking the final phase of the creation of Aberystwyth Arts Centre by Aberystwyth University. The total cost of the centre at that time was just over £1 million, and the architect of the project was Dale Owen of Percy Thomas Partnership, architects of Cardiff's new Millennium Centre.
Throughout the 80s and 90s the organisation put down strong roots, and gradually developed its facilities to encompass workshops and studios,
cafes, shops and bars. The programme became stronger and busier with renowned companies and artists touring to the Centre, whilst the visual arts programme in particular became recognised internationally for its high standard and specialism in contemporary work, particularly for contemporary ceramics. The unique community arts and education programme was established in the 1984, initially in the visual arts and then developed to encompass all art forms as the Arts Centre strove to encourage people to discover a passion for the arts. The Centre has also seen the establishment of a wide range of festivals across all the art forms as a key part of its arts development strategy.
Now the Centre is almost unrecognisable from the early days in terms of both activity and size! In order to house the increasingly busy programme, a successful £4.3 million redevelopment project was completed in April 2000 which enabled substantial development of new facilities. These included purpose built workshop spaces - pottery studio, digilab, darkroom, video suite, recording studio and music rooms - plus a new 120 seater cinema, dance studios, studio theatre (125 seats), a new Grade 1 gallery (taking the total to four) plus total refurbishment of the theatre foyer, bars, craftshop and bookshop. Architect of the redevelopment, Peter Roberts, managed to fully integrate the 'old' venue with the new, to create a building which is open, spacious and welcoming, and which boast facilities unrivalled throughout the UK.
In January 2008 a new £1.75 redevelopment is underway to add an artists and creative industries studios complex, designed by Thomas Heatherwick one of the UK’s top designer This complex will form the basis of a new major artists in residence programme for visual artists from the UK and also internationally. This programme has been supported by the Esme Fairbairn Foundation and Wales Arts International. There will also be additional dance studios and perfomance spaces to accommodate the enormous expansion of our programme since 2000 .
These days the Arts Centre is a busy and vibrant venue with over 650,000 visitors a year and a programme of over 103,250 events each year, across all art forms. With a staff of over 170 committed and talented people it is a major regional employer, whilst a turnover of £4 million makes it one of the most successful businesses in the region.
Never content to rest on its laurels, the Arts Centre continues to plan for the future. In addition to the new artists and creative industries complex plans to develop the Community and Education programme to encompass accredited training for professionals in the arts with a drama pilot project already undertaken in 2007 and on in dance pilot project planned for 2008. The Arts Centre has also expanded its role as a producing theatre not only through its major musical theatre productions but also through new annual touring productions. So its probably a fair bet that in 10 or 20 years time the Arts Centre will again be a different place to the Arts Centre of the present - which is just as it should be!
Agorwyd y neuadd gyngerdd gyda 900 o seddi
(y Neuadd Fawr) ym 1970, gydag ychwanegiad yr Oriel Arddangos a'r theatr (Theatr y Werin, a gwblhawyd ym mis Tachwedd 1972 gydag ychydig dros 300 o seddi), yn dynodi diwedd y prosiect i greu Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth gan Brifysgol Aberystwyth. Cyfanswm cost y ganolfan y pryd hynny oedd ychydig dros £1 miliwn, a phensaer y prosiect oedd Dale Owen o Bartneriaeth Percy Thomas, sef penseiri Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Trwy gydol yr 80au a'r 90au bu'r ganolfan yn datblygu gwreiddiau cadarn gan ymestyn ei chyfleusterau yn raddol i gynnwys gweithdai a stiwdios, bwytai, siopau a barrau. Daeth y rhaglen yn gryfach ac yn brysurach gyda chwmniau ac artistiaid andabyddus yn ymweld â 'r Ganolfan. Bu rhaglen y celfyddydau gweledol, yn benodol, yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei safon a'i harbenigaeth mewn gwaith cyfoes, yn arbennig serameg cyfoes. Sefydlwyd y rhaglen addysg a chelfyddydau cymunedol unigryw ym 1984, yn gyntaf ym maes y celfyddydau gweledol ac wedyn datblygodd i gynnwys ystod eang o weithgareddau wrth i'r Ganolfan anelu at annog pobl i ddatblygu diddordeb mewn pob agwedd o'r celfyddydau. Bu'r Ganolfan hefyd yn gyfrifol am sefydlu amrywiaeth eang o wyliau yn y gwahanol gelfyddydau fel rhan allweddol o'i strategaeth i ddatblygu'r celfyddydau.
Erbyn hyn mae'r Ganolfan yn lle gwahanol iawn i'r hyn yr oedd yn y dyddiau cynnar, yn nhermau maint ac amrywiaeth y gweithgareddau. Yn sgil y rhaglen brysurach cwblhawyd prosiect ail-ddatblygiad llwyddiannus gwerth £4.3 miliwn ym mis Ebrill 2000 pryd y cafwyd cyfleusterau newydd sylweddol iawn. Ymysg y rhain oedd: stiwdio crochenwaith, labordy digidol, ystafell dywyll, uned fideo, stiwdio recordio ac ystafelloedd cerdd - yn ogystal â sinema newydd sbon yn cynnwys 120 o seddi, stiwdios dawns, theatr stiwdio (125 o seddi), oriel newydd Gradd 1 (yn dod â'r cyfanswm i bedair) ac hefyd andewyddiad llwyr o gyntedd y theatr, y bar, y siop grefftau a'r siop lyfrau. Llwyddodd pensaer y prosiect, Peter Roberts, i integreiddio'r hen adeilad gyda'r newydd, gan greu canolfan sy'n agored, yn helaeth ac yn groesawgar ac sy'n cynnig cyfleusterau sydd heb eu hail yn y Deyrnas Unedig.
Bellach, ym mis Ionawr 2008, mae prosiect newydd arall gwerth £1.75 miliwn ar y gweill i ddatblygu nifer o unedau ar gyfer artistiaid a diwydiannau creadigol, wedi eu cynllunio gan Thomas Heatherwick, un o'r dylunwyr mwyaf blaenllaw ym Mhrydain. Bydd y datblygiad hwn yn ffurfio'r sylfaen ar gyfer rhaglen newydd sylweddol i gynnal artistiaid preswyl, sy'n gweithio ym maes y celfyddydau gweledol, o bob rhan o Brydain ac hefyd yn rhyngwladol. Cefnogwyd y rhaglen hon gan Sefydliad Esme Fairbairn a Wales Arts International. Ceir hefyd stiwdios dawns a gofod perfformio ychwanegol i hwyluso'r tyfiant sylweddol yn ein rhaglen ers 2000 .
Erbyn hyn mae Canolfan y Celfyddydau yn lle prysur a bywiog gyda thros 650,000 o ymwelwyr y flwyddyn a rhaglen yn cynnwys dros 103,250 o weithgareddau'r flwyddyn, ym mhob agwedd o'r celfyddydau. Gyda staff o dros 170 o bobl ymroddgar a thalentog mae'r ganolfan yn gyflogwr rhanbarthol sylweddol tra bod trosiant o £4 miliwn yn ei gwneud yn un o'r busnesau mwyaf llwyddiannus yn y rhanbarth.
Er gwaetha'r holl newidiadau, mae'r Ganolfan yn parhau i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal â'r unedau newydd ar gyfer artistiaid a'r diwydiannau creadigol, mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu'r rhaglen Gymuned ac Addysg i gynnwys hyfforddiant achrededig ar gyfer popl broffesiynol yn y maes, gyda phrosiect drama arbrofol eisoes wedi ei gyflawni yn 2007, a phrosiect arbrofol arall ym maes dawns i gymryd lle yn 2008. Mae'r Ganolfan hefyd wedi ehangu ei swyddogaeth fel theatr gynhyrchu, nid yn unig trwy ei chynyrchiadau sylweddol ym maes theatr gerddorol, ond hefyd trwy gynyrchiadau twrio blynyddol newydd. Ac felly mae'n debyg y bydd y Ganolfan mewn 10 neu 20 mlynedd yn lle gwahanol eto i Ganolfan y presennol - ac yn sicr, felly y dylai fod!
