Gwyl Adrodd Straeon Digidol ds5 |
|
|---|---|
16/6/2010
|
Aberystwyth Arts Centre Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw’r ganolfan gelf fwyaf blaenllaw yng Nghymru ac fe’i cydnabyddir yn genedlaethol fel canolfan arloesol ym maes datblygu’r celfyddydau. Mae ganddi raglen artistig eang, o safbwynt cynhyrchu a chyflwyno, sy’n cynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, y cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol. Mae’r Ganolfan yn croesawu dros 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn, gan gynnwys dros 100,000 yn mynychu’r celfyddydau perfformio a gweithgareddau’n nodweddu gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol; 236,000 yn ymweld ag arddangosfeydd a thros 100,000 yn cymryd rhan yn ein rhaglen gelfyddydau cymunedol ac addysg unigryw. Yn 2000 bu’r Ganolfan yn cwblhau ail-ddatblygiad sylweddol gwerth £4.3 miliwn. Yn 2009 cafwyd datblygiad ychwanegol gwerth £1.75 miliwn ar ffurf nifer o stiwdios newydd ar gyfer artistiaid a diwydiannau creadigol sydd hefyd yn gartref i nifer sylweddol o artistiaid preswyl. Mae gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth bellach amrediad o gyfleusterau sydd heb eu hail yn y rhan fwyaf o’r DU. Mae Canolfan y Celfyddydau yn adran o Brifysgol Aberystwyth ac fe’i lleolir yng nghanol campws y brifysgol, gyda golygfeydd bendigedig ar draws tref Aberystwyth a Bae Ceredigion. |
|
tocyn yr wyl £15 gan gynnwys diod poeth a bwffe canol dydd
|
|