Gwyl Adrodd Straeon Digidol       ds5

16/6/2010

 

Anela’r bumed ?yl Adrodd Straeon Digidol at ysbrydoli, annog a dangos y posibiliadau cyffrous sy’n bodoli ym maes adrodd straeon digidol. 

Os ydych yn gweithio ym myd addysg, y gymuned neu fel artist, dyma’ch cyfle i rannu profiadau, archwilio syniadau creadigol newydd, gweld y datblygiadau technolegol diweddaraf, edrych ar enghreifftiau o ymarfer da yn y DU a thramor a dathlu arwyddocâd cynyddol adrodd straeon digidol.

Mae DS5 yn cynnig diwrnod difyr o siaradwyr ysbrydoledig a sesiynau ymarferol ar bob pwnc y gallwch feddwl amdano ym maes adrodd straeon digidol - a rhai nad ydych wedi eu hystyried!  Hyn i gyd yn ogystal ag amrediad helaeth o stondinau masnach gan y noddwyr, cynlluniau datblygiad cymunedol a llawer mwy - a chyfle unigryw i rwydweithio gyda’r gymuned adrodd straeon digidol yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Connect with us: facebook | twitter | ning

yr wyl

y rhaglen

y siaradwyr

y sesiynau

y lle

lle i aros

 

 

archebu ar-lein

tocyn yr wyl £15

gan gynnwys diod poeth a bwffe canol dydd