Ewch at gynnwys

Mae Pob Un o Rhain Yn Wir

Sul 29 Hydref 2023 i Sul 28 Ionawr 2024

Oriel 1

Treuliodd Alice Briggs amser yng Nghwm Elan fel artist breswyl yn 2022. Mae mynyddoedd y Cambria heddiw wedi cael eu disgrifio’n arw fel ‘anialwch gwyn’, heb harddwch, natur a bywyd – ond i’r artist maent yn cynrychioli noddfa a hiraeth. Yn ein cymdeithas sy’n gynyddol ranedig, ‘rydym yn brwydro mwy a mwy gyda’r syniad y gall un persbectif fod, ar yr un pryd, mor wir a dilys ag un arall. Mae harddwch yn llygad yr arsyllwr, felly yn yr achos hwn mae’r dirwedd yn wyllt ac yn ddof, yn anialwch ac yn noddfa, yn bwynt tynnu allan ac ymgolli.

I Alice, daeth haenau amryfal y dirwedd hanesyddol, ecolegol a daearyddol hefyd yn fetaffor yn ei bywyd, ar adeg newid personol, galar a thrawsffurfiad. Sut y gall yr un atgof gael ei alw’n ôl mewn ffurfiau diddiwedd; bod bywydau a brofwyd ar y cyd yn ôl pob golwg yn gallu arwain at ddealltwriaeth, ond hefyd camddealltwriaeth.

Gyda diolch i Oriel g39, Caerdydd a’r Freelands Foundation.

Ymweld â Gwefan Alice

Noder os gwelwch yn dda:  Bydd y Ganolfan y Celfyddydau yn cau ar ôl y sioe olaf ar y 22 Rhagfyr a bydd yn ail agor ar y 2 Ionawr 2024.  Nadolig Llawen!